Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Iau, 21 Chwefror 2019
Amser:
09.20 -
12.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5333
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Mike Hedges AC (Cadeirydd) Gareth Bennett AC Andrew RT Davies AC John Griffiths AC Llyr Gruffydd AC Jenny Rathbone AC Joyce Watson AC |
Tystion: |
Rachel Sharp, Ymddiriedolaethau Natur Cymru Jerry Langford, Coed Cadw Laurence Brooks, Ymgynghorydd Ecolegol Robert Vaughan, Cyfoeth Naturiol Cymru Steve Wilson, Dŵr Cymru Emyr Williams, Parc Cenedlaethol Eryri Geraint Jones, Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro Brendan Costelloe, Cymdeithas Ecoleg Prydain |
Staff y Pwyllgor: |
Marc Wyn Jones (Clerc) Elizabeth Wilkinson (Ail Glerc) Katy Orford (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.
1.2 Cyhoeddodd y Cadeirydd y bydd Dai Lloyd AC yn disodli Helen Mary Jones AC fel aelod parhaol o'r Pwyllgor.
1.3 Diolchodd y Cadeirydd i Helen Mary Jones AC am ei chyfraniad at waith y Pwyllgor.
1.4 Cafwyd ymddiheuriadau gan Dai Lloyd AC.
1.5 Cyfeiriodd Joyce Watson AC y Pwyllgor at ei diddordeb cofrestredig.
2.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr grwpiau'r amgylchedd a chadwraeth.
3.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Dŵr Cymru, Awdurdodau Parciau Cenedlaethol a Chymdeithas Ecolegol Prydain.
4. Nododd y Pwyllgor y papurau o dan eitem 4.
5.1 Penderfynodd y Pwyllgor wahardd y cyhoedd ar gyfer eitemau 6 a 7 yng nghyfarfod heddiw.
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 2 a 3.
7.1.
Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu yn ôl at Weinidog yr
Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i ystyried y materion sy'n
ymwneud ag egwyddorion a llywodraethu amgylcheddol ymhellach.
7.2 Cytunodd y Pwyllgor i ymgymryd â gwaith pellach ar
egwyddorion a llywodraethu amgylcheddol ar bwynt priodol yn ei
raglen waith, ac ar ôl cyhoeddi ymgynghoriad Llywodraeth
Cymru.